| Chapter yw un o ganolfannau celfyddydol
mwyaf a mwyaf deinamig Ewrop ac mae’n gartref
i sinemâu, theatrau, gofodau arddangos, stiwdios,
café, bariau sydd wedi ennill gwobrau, dros
60 o ofodau gwaith diwylliannol a llawer mwy!
Os ydych chi eisiau mynd dan groen perfformiad,
gweld ffilmiau i godi’ch calon a chodi’ch
ysbryd, gweld arddangosfa fydd yn tanio’r
dychymyg ac yn gwneud i chi feddwl, neu os ydych
chi eisiau ymlacio gyda choffi, yna ymunwch â
ni yn Chapter – fe gewch chi groeso cynnes
iawn.
|