Bydd y ddawnswraig a’r coreograffydd
Madhvi yn dychwelyd i Chapter i berfformio’i
gwaith grymus ar bwnc dadleuol gwragedd gweddw
Hindw. Mae White Shadow yn olwg ddirdynnol ar
yr anghyfiawnder, y trawma a’r dynged frawychus
sydd yn wynebu gwragedd gweddw Hindw. Caiff eu
sefyllfa, sydd wedi’i bennu gan y gymdeithas
wrywaidd ddominyddol, ei guddio gan wleidyddion
a ffwndamentalwyr, y tu ôl i len y grefydd
Hindw. Mae Madhvi yn cyfuno fideo ddogfen gan
y gwneuthurwr ffilm Aparna Sharma â dawns,
llefaru a cherddoriaeth fyw er mwyn archwilio,
â sensitifrwydd, y clwyf gwleidyddol-grefyddol
– yr anghyfiawnder.
|