Yn gynharach eleni, bu’r
coreograffydd Sioned Huws ar gyfnod preswyl yng
Nghanolfan Celfyddydau Cyfoes Aomori yng ngogledd
Japan, lle mae yna stormydd eira parhaol.
“Mae gweld eira’n cwympo –
yn ailadroddus a thawel – yn arafu curiad
y galon, wrth i’r corff gael ei feddiannu
gan ddyhead i fod yn llonydd. Does gan y lluwchfeydd
eira ddim cydymdeimlad. Yn yr elfennau eithafol
hyn, does gan y corff ddim dewis ond herio’i
ddyheadau’i hun.”
Bydd y ddawnswraig Reina Kimura o Aomori yn
ymuno â Sioned ac yn treulio cyfnod preswyl
yn Chapter yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf i
gwblhau’r gwaith hwn.
|