Mae Sild (sydd yn golygu “pont”
yn yr iaith Estoneg) yn uniad o ddau gerddor rhyngwladol-nodedig:
Sille Ilves, cantores fesmerig o Estonia sydd
hefyd yn canu’r ffidil a’r hiiu-kannel,
a’r gitarydd arloesol o Gymru, Martin Leamon.
Ers iddyn nhw ffurfio yn 2001, maent wedi cydblethu
diwylliannau cerddorol Cymru ac Estonia gan greu
cerddoriaeth werin sydd yn swynol a diamser. Bydd
Sild yn dychwelyd i Chapter i chwarae caneuon
o’u halbwm newydd “Tro” ac mae’r
gyngerdd yn addo bod yn daith gerddorol drawiadol.
|