| Y cwmni a ddaeth a Shinani’n
Siarad, Ede Hud a Holl Liwie’r Enfys atoch,
yn cyflwyno ei sioe newydd sbon. Portread o gyfnod
tymhestlog canol oed pan fydd rhaid i fenyw wynebu
herio’i chorff a’i henaid tra’n
ceisio ymrafael â dirgelion bywyd a marwolaeth.
Sut ma’ torri drwy’r haenau o gelwydd
a chyfrinachedd er mwyn darganfod llwybrau newydd?
Sut ma’ osgoi suddo o dan y don a diflannu
o olwg y byd?
Sut ma’ dod i delerau â’i hangerdd
goruwchnaturiol a’n bwysicaf oll, sut ma’
osgoi troi’n llofrudd!!
Mae Trafaelu ar y Tren Glas sy’n cael ei
berfformio gan yr awdur Sharon Morgan a’i
gyfarwyddo gan Catrin Edwards, yn ddarlun difyr
a dwys o genhedlaeth sy’n gwrthod tyfu’n
hen ac yn barchus cyn ymladd yr un frwydr olaf. |
"… tour de force o sgrifennu
ac o actio, cyfarwyddo cynllunio, goleuo a dylunio…
cywaith theatrig, grymus a chywrain. Dyma’r
‘sgrifennu newydd’ gorau imi ei weld
a’i glywed ar lwyfan eleni." - Gareth
Miles, Barn
"…profiad cofiadwy a thyner iawn…"
- Rhian Ellis, Theatr Canolfan Gartholwg
"Dyma waith a pherfformiad llawn emosiwn,
dychymyg, cynnwrf, egni a ffantasi. Mae'n bryddest
o ddrama, yn farddoniaeth…" - Gwyn
Griffiths, BBC Cymru
|