Ar 21 Mawrth 2003, noswyl ymgyrch
filwrol America a Phrydain yn Irac, ymunodd Japan
â rhengoedd y cenhedloedd arfog am y tro
cyntaf ers 1945. Yn erbyn y cefnlen hanesyddol
hwn, daw’r cymeriadau yn Five Days in March
yn rhan o stori bywyd-bob-dydd arddegwyr Tocio
a’r genhedlaeth hikikomori — y genhedlaeth
“N” (“no job, no income”).
Mae eu hiaith lafar yn hollol real ac yn cyfleu
syniad o ymddatodiad wrth i’w cyrff geisio
gwneud synnwyr o ystumiau mewn byd sydd yn ymddangos
yn ansicr ac amhenodol.
Bydd y dramodydd a’r cyfarwyddwr nodedig
Toshiki Okada a’i gwmni yn ymweld â
Chapter i roi dau berfformiad ar ôl chwarae
mewn gwyliau o bwys ledled Ewrop (Salzburg, Fiena,
Brwsel). Daw’r enw chelfitsch o gam-ynganu
plentyn o’r gair “selfish” ac
mae’n awgrymu rhai o nodweddion diwylliannol
a chymdeithasol cymdeithas gyfoes Japan, yn arbennig
mewn dinasoedd fel Tocio.
|