Wedi’i ffurfio gan Urmat
Yntaev i frwydro yn erbyn y bygythiadau i draddodiadau
brodorol yr Altai a’u tir sanctaidd yng
nghanol Asia, mae cerddoriaeth AltaiKAI yn drwm
dan ddylanwad mynyddoedd anferthol Altai, ‘bogel’
eu bydysawd. Gan gyfuno’r canu ‘kai’
gyddfol (nodau wedi’u twchu ag is-donau
arallfydol) â synau byd natur, detholiad
o offerynnau traddodiadol a’u caneuon eu
hunain, mae’r pumawd nodedig hwn yn cyfleu
delweddau o arwyr, credoau ysbrydol a thirlun
bugeiliaid a helwyr yr Altai.
Cliciwch yn y
fan hon am fanylion am weithdy canu-llwnc
gyda Carole Pegg ac AlataiKAI.
|