Mae hi’n bleser mawr
gallu cyhoeddi trydedd wyl Passion, Gwyl Dinas
Ddrama Caerdydd, a fydd yn digwydd eleni gydol
yr haf yng ngwahanol ofodau Canolfan Gelfyddydau
Chapter.
Yn 2008, mae Passion yn ehangu’i ffocws
traddodiadol ar fyd y ddrama i gynnwys artistiaid
arobryn o fyd dawns a cherddoriaeth, o Gymru ac
o bedwar ban byd. Gyda gweithiau newydd wedi’u
comisiynu a’u cynhyrchu gan STIWDIO Chapter,
ac wrth i ni lansio gofod newydd Y Llofft, mae
Passion yn ddathliad o ganolfan hanesyddol sydd
yn galluogi i chi weld perfformwyr nodedig ar
waith, yn creu gweithiau unigryw a phontydd sydd
yn galluogi i wahanol gyfryngau (sinema, cerddoriaeth,
theatr, celfyddydau gweledol, dawns) orgyffwrdd
a phryfocio’i gilydd. >Wrth i straeon
gael eu hadrodd, symudiadau gael eu creu mewn
gofod, wrth i ddelweddau gael eu taflunio ar furiau
a geiriau’u llefaru, wrth i offerynnau ganu
caneuon lleoedd pell ac agos, dw i’n gobeithio
y bydd digwyddiadau Passion 08 yn ysbrydoliaeth
i bob un.
|